Cymru'n arwain y ffordd gyda Masnach Deg

Cyswllt:
Elen Jones - 07912 496044
media@fairtradewales.com
http://www.fairtradewales.co.uk

Cymru'n arwain y ffordd gyda Masnach Deg

Mae cwsmeriaid Cymru yn parhau i ddewis nwyddau Masnach Deg wrth siopa er gwaetha'r dirwasgiad byd-eang, yn ôl ffigurau newydd.

Dengys arolwg annibynnol a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru fod y nifer o ddefnyddwyr sy'n prynu cynnyrch Masnach Deg wedi parhau i godi ers 2007, gyda dros hanner y boblogaeth bellach yn dewis Masnach Deg yn rheolaidd.

Meddai Elen Jones, Cydlynydd Cenedlaethol Cymru Masnach Deg:

‘Dyma newyddion ardderchog ar gyfer Masnach Deg ac ar gyfer Cymru. Mae'n dangos, hyd yn oed mewn dirwasgiad ariannol pan fo pob ceiniog yn cyfri, fod pobl Cymru yn parhau i boeni am fywydau gweithwyr mewn gwledydd sy'n datblygu.'

Meddai:

‘Mae hyn yn dangos fod Cymru wedi ymrwymo at ei statws fel Cenedl Masnach Deg. Gall ein dewisiadau bychain ni fel defnyddwyr wneud gwahaniaeth enfawr.'

Mae'r ffigurau hefyd yn dangos fod ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o Fasnach Deg yn cynyddu yng Nghymru, gyda dros ddwy ran o dair o'r boblogaeth yn adnabod y logo Masnach Deg, ac yn deall ei fod yn gwarantu gwell bargen i gynhyrchwyr yn y Trydydd Byd.

Nodiadau i olygyddion:
· Ffigurau o Omnibws Cymru, Tachwedd 2009
· Ariannir Cymru Masnach Deg gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.
· Yn 2008 daeth Cymru yn Genedl Masnach Deg gyntaf y byd.
· Mae pob awdurdod lleol yng Nghymru naill ai wedi cyrraedd neu'n gweithio tuag at statws Masnach Deg.