Beth yw Prifysgol neu Goleg Masnach Deg?
Mae Prifysgol neu Goleg Masnach Deg yn sefydliad sydd wedi ymrwymo i werthu a hyrwyddo nwyddau Masnach Deg ac addysgu'i fyfyrwyr a staff ynglŷn â Masnach Deg
I ddod yn Brifysgol neu Goleg Masnach Deg, mae'n rhaid i chi gyrraedd y 5 Nod sy'n cael eu gosod gan Sefydliad Masnach Deg. Y nodau yw:
1. Creu polisïau Masnach Deg
Rhaid i awdurdodau'r brifysgol / coleg ac Undeb y Myfyrwyr greu polisïau Masnach Deg sy'n cynnwys y 5 nod. Bydd aelod o Bwyllgor Gwaith Undeb y Myfyrwyr a chynrychiolydd y brifysgol / coleg yn derbyn y prif gyfrifoldeb dros weithredu'r polisi hwn ac yn cytuno i eistedd ar y grŵp Llywio Masnach Deg.
2. Bwydydd Masnach Deg ar gael ym mhob siop ar y campws
Bydd bwydydd Masnach Deg ar gael i'w gwerthu ym mob siop ar y campws ac yn cael eu defnyddio mewn caffis / bwytai / bariau ar y campws. Pan nad yw hynny'n bosibl, mae'r sefydliadau'n ymrwymo i ddechrau defnyddio bwydydd Masnach Deg fel y daw'n bosibl gwneud hynny.
Bydd y bwydydd sydd i'w gwerthu'n rhai sydd ar gael gan Fasnach Deg ond sy'n cael eu gwerthu ar hyn o bryd ar ffurf an-Fasnach Deg. Er enghraifft, os yw caffi'n gwerthu coffi ar hyn o bryd byddai'n rhaid iddo ychwanegu brand Masnach Deg at ei stoc neu newid y coffi a werthir ar hyn o bryd am goffi Masnach Deg. Does dim rhaid gwerthu bwydydd Masnach Deg os nad yw'r mathau hynny o fwydydd o ffynonellau eraill eisoes yn cael eu gwerthu, er yr anogir bob amser ehangu'r mathau Masnach Deg o gynnyrch ar werthir!
3. Bwydydd Masnach Deg yn cael eu gweini ym mhob cyfarfod a gynhelir gan y sefydliad
Dylai bwydydd Masnach Deg (e.e. coffi, te a siwgr) gael eu gweini ym mhob cyfarfod a gynhelir gan y brifysgol / coleg ac yn Undeb y Myfyrwyr. Dylai'r rhain gael eu gweini hefyd yn swyddfeydd rheoli'r brifysgol / coleg ac yn Undeb y Myfyrwyr.
4. Ymrwymiad i Ymgyrchu am Fwy o Ddefnydd o Fasnach Deg
Rhaid bod ag ymrwymiad i'r ymgyrch i gynyddu'r defnydd o Fasnach Deg ar y campws. Yn benodol, rhaid gweithredu o leiaf 3 o'r dulliau canlynol ar unrhyw un adeg:
- Erthyglau a deunyddiau priodol eraill i'w cynnwys ym mhapur newydd y myfyrwyr ac ar wefan y brifysgol / coleg. Gellir hyrwyddo Nod Masnach Deg hefyd mewn cyhoeddiadau priodol eraill, megis prosbectws y brifysgol.
- Dylid arddangos defnyddiau Sefydliad Masnach Deg ar hysbysfyrddau o gwmpas y campws yn ogystal ag ym mhob man lle gwerthir bwydydd Masnach Deg.
- Pythefnos Masnach Deg yw Y cyfle mawr i hyrwyddo bwydydd Masnach Deg a chynyddu gwerthiant, gyda'r brifysgol / coleg yn ymrwymo i redeg cyfres o ddigwyddiadau yn ystod Pythefnos Masnach Deg. Y grŵp llywio, yn cydweithredu gyda chyrff / grwpiau priodol eraill, fydd yn gyfrifol am drefnu hyn. .
5. Sefydlu Grŵp Llywio Masnach Deg
Bydd y Grŵp yn cyfarfod o leiaf unwaith y tymor er mwyn trafod y cynnydd gyda phob un o'r nodau ac i benderfynu ar sut i barhau a mynd y tu hwnt i'r nodau hynny.
Awgrymir y dylai aelodaeth y Grŵp Llywio Masnach Deg gynnwys cynrychiolwyr o'r grwpiau canlynol:
- Gwasanaethau Arlwyo'r Brifysgol / Coleg
- Awdurdod y Brifysgol / Coleg
- Pwyllgor Gwaith Undeb y Myfyrwyr
- Gwasanaethau Arlwyo / Masnachol Undeb y Myfyrwyr
- Cymdeithas addas o Undeb y Myfyrwyr
- Budd-ddeiliaid eraill fel y mae'r Grŵp Llywio yn eu hystyried yn addas
Bydd gofyn i'r grŵp llywio anfon adroddiad llawn i'r Sefydliad Masnach Deg yn egluro sut y llwyddwyd i gyrraedd pob un o'r nodau er mwyn ennill y statws.
Er mwyn i'r brifysgol gadw'r statws, disgwylir i'r grŵp llywio ddatblygu'r nodau hyn ac anfon adroddiad ar ddiwedd pob blwyddyn academaidd i'r Sefydliad Masnach Deg.