Camwch Gam ym Mhythefnos Masnach Deg!

Pythefnos Masnach Deg: 27 Chwefror - 11 Mawrth 2012

Mae hi’n Bythefnos Masnach Deg ac fel rhan o'r dathliadau rydym yn falch o gyhoeddi lansiad y 'Blwyddyn Masnach Deg'. Drwy gydol 2012 bydd cefnogwyr ar draws y wlad yn cael eu gwahodd i 'Gamu cam' dros Fasnach Deg.

Ewch yma i ganfod mwy >>


Mae ysgolion dros Gymru gyfan yn camu cam yn ystod Pythefnos Masnach Deg! Mae yna dros 100 o ysgolion yn rhedeg ras gyfnewid Masnach Deg ac mae llawer mwy yn trefnu digwyddiadau a gweithgareddau arall. Cliciwch yma i weld y lluniau!

Peidiwch anghofio anfon lluniau o'ch ras neu unrhyw weithgareddau arall Pythefnos Masnach Deg i schools@fairtradewales.org.uk


Ewch yma i weld lluniau miri Masnach Deg ledled Cymru


Rydym yn gwneud hynny drwy:

  • Arwain ymgyrch Cenedl Fasnach Deg
  • Cefnogi a datblygu gweithgaredd sylfaenol Masnach Deg - o grwpiau trefi a siroedd i ysgolion
  • Cynhyrchu gwefan a defnyddiau dwyieithog
  • Gweithio gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru i ddylanwadu ar newid dros Fasnach Deg

Dros y tair blynedd diwethaf Llywodraeth Cynulliad Cymru sydd wedi cyllido Fforwm Masnach Deg Cymru.

Ar 6 Mehefin 2008 cafodd Cymru'r llwyddiant hanesyddol o ddod y genedl Fasnach Deg gyntaf erioed. Daeth y cyhoeddiad yn dilyn ymgyrch ddwy flynedd gan Gymru Masnach Deg, gyda chyllid gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, i sicrhau fod mwy o gynnyrch Masnach Deg ar gael mewn trefi, dinasoedd a siroedd ledled Cymru, ac i annog ysgolion, busnesau a sefydliadau eraill i newid i Fasnach Deg.

I ganfod rhagor ynghylch ymgyrch Cenedl Fasnach Deg cliciwch yma.

Defnyddiwch y dolenni uchod i archwilio meysydd gwahanol sefydliad Masnach Deg yng Nghymru a gweld sut y gallwch chi gymryd rhan. Cofiwch ymuno â'n rhestr cefnogwyr os hoffech dderbyn ein llythyr newyddion misol.


------------
NEWYDDION: Cliciwch yma i ganfod beth sy'n newydd gyda Chymru Masnach Deg
Cliciwch yma i weld llythyr newyddion mis Rhagfyr Cymru Masnach Deg