Ymateb i adroddiad Panorama'r BBC ar lafur plant yn niwydiant coco Gorllewin Affrica
Dangosodd rhaglen panorama'r bbc, a gafodd ei darlledu nos fercher 24 mawrth, rai problemau mawr yn y diwydiant siocled sydd yn ddychrynllyd ar un llaw ac yn galonogol ar y llall.
Mae'n drist clywed fod yna deuluoedd yn dal yng ngorllewin affrica mor dlawd nes eu bod yn gwerthu eu plant i weithio ar ffermydd coco.
Er ei bod yn amlwg fod yna blant yn cote d'ivorie a ghana sy'n dal heb gyfle i gael addysg ac sy'n gorfod gweithio ar blanhigfeydd gyda chyfarpar peryglus, mae hefyd yn amlwg y gall y model masnach deg fod yn ffordd dda o daclo'r problemau hyn.
Kuapa Kokoo yn ghana yw fferm goco gydweithredol fwyaf y byd ac mae'n un o gyflenwyr ardystiedig hynaf coco masnach deg. Mae wedi datblygu a sefydlu gweithdrefnau gan gynnwys systemau rheoli mewnol, hyfforddiant, codi ymwybyddiaeth ac ymestyn allan, cynllun ysgoloriaeth, gwersylloedd ieuenctid ac, yn bwysicaf, adeiladu ysgolion i ddiddymu problem llafur plant.
Er ei bod yn drist deall o'r rhaglen fod plant yn cael eu gwerthu yn kuapa kokoo, mae'n braf gwybod, oherwydd gwaith archwilio masnach deg, y canfuwyd beth oedd y broblem a'i datrys yn gyflym. Mae'n braf hefyd gweld kuapa kokoo yn mynd gam ymhellach i ganfod lle mae safonau'n gostwng ac i ddelio â'r problemau sy'n codi. Mae hyn yn dangos yn glir gryfder a didwylledd kuapa kokoo fel sefydliad sydd wedi hen wreiddio a bod masnach deg yn nerthu ffermwyr i daclo'r problemau anodd hyn.
Byddai'n ddiniwed meddwl y bydd yr ymddygiad diwylliannol ac, fe ymddengys, anobeithiol, hyn yn diflannu dros nos. yr hyn y mae'n rhaid ei wneud yw rhoi rheolaeth a grym yn ôl i'r bobl sy'n gwybod sut i oresgyn y problemau a newid pethau drostyn nhw'u hunain, ar hyn o bryd ac yn y dyfodol.
Daeth panorama hefyd ar draws plant yn cael eu gweithio'n ddi-dâl ar fferm gydweithredol masnach deg yn cote d'ivorie sy'n cyflenwi nestle. Rydym yn croesawu ymchwil a gweithredu brys y sefydliad masnach deg i hyn ac yn disgwyl y canlyniad yn eiddgar. Mae'n annerbyniol fod plant yn cael eu hamddifadu o'u plentyndod i gasglu coco.
Yn y cyfamser, gallwch fod yn sicr mai logo masnach deg ar unrhyw eitem y byddwch yn ei brynu yw eich gwarant fod safonau uchel ar gyfer ei gynhyrchu ac y gweithredir os bydd problem yn codi. Mae hefyd yn warant y talwyd pris teg i ffermwyr a phremiwm i'r fferm gydweithredol. Mae'n rhaid iddyn nhw gael y tâl ychwanegol i ddechrau rheoli problemau allweddol megis llafur plant ac addysg.
Gan mai cymru yw'r wlad gyntaf yn y byd i ddod yn genedl masnach deg gallwn ddal i arwain y ffordd a chefnogi system sydd nid yn unig yn gwarantu pris teg ond hefyd yn galluogi cymunedau mewn gwledydd sy'n datblygu i ddechrau taclo eu problemau drostyn eu hunain.
Os gwnaethoch chi fethu'r rhaglen, gallwch ei gweld yma neu ar wefan y bbc.
Sylwadau'r diwydiant siocled i panorama.
Darllenwch ymateb masnach deg yma.
Mae harriet lamb, cyfarwyddwr sefydliad masnach deg hefyd wedi blogio ar y mater:
rhannwch eich syniadau yma.
Siôn Corn Masnach Deg Cyntaf ERIOED.
Gan mai Cymru yw Cenedl Masnach Deg gyntaf y byd, mae'n iawn i Gymru gael y Siôn Corn Masnach Deg cyntaf erioed. Mae siwt Santa yn gwbl egwyddorol ac wedi'i wneud o ddeunyddiau Masnach Deg a gwlân Cymreig (a gyfrannwyd gan Fwrdd Marchnata Gwlân Prydain), gan ddangos sut gall Masnach Deg a chynnyrch lleol gydweithio.
Eglura Kate Meakin, Swyddog Datblygu Cymru Masnach Deg, "Mae ei got wedi'i gwneud o gymysgedd o ddeunyddiau Masnach Deg o wledydd sy'n datblygu a gwlân Melin Tregwynt, a'i goler, llewys a barf wedi'u gwneud o wlân defaid Cymru, ac mae ei wregys hyd yn oed wedi'i wneud o deiar car wedi'i ailgylchu! Rydym am i'n Siôn Corn ddangos, yn ystod y cyfnod prysuraf yn y siopau, bod modd i ni wneud gwahaniaeth cadarnhaol i ffermwyr ym mhobman gyda'n dewisiadau prynu."
Cynlluniwyd y wisg drawiadol gan Claire Andrew o ysgol ffasiwn Prifysgol Casnewydd, a enillodd gystadleuaeth. Meddai Claire
"Mae wedi bod yn wych cael bod yn rhan o'r prosiect sy'n codi ymwybyddiaeth y gall deunydd hyfryd ddod o ffynonellau egwyddorol, a bod yn amgylcheddol gadarn. Rwy'n falch iawn fy mod wedi defnyddio darnau a fyddai wedi cael eu taflu, a'u hailgylchu i greu'r Siôn Corn 100% Masnach Deg cyntaf erioed!"
Bydd Santa yn teithio drwy Gymru gan stopio yng Nghaerdydd, Ynys Môn, Conwy a rhai llefydd eraill ar y ffordd, yn ogystal ag ymddangosiad arbennig yn niwrnod hwyl Nadolig yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd ar ddydd Sadwrn, 19 Rhagfyr.
Tynnu lluniau: Bydd cyfle i dynnu lluniau gyda'n Siôn Corn Masnach Deg ac enillydd y gystadleuaeth, Claire Andrew wrth y goeden Nadolig enfawr (ger Boots) yng nghanolfan siopa Dewi Sant am 2pm dydd Gwener 4 Rhagfyr. Ffoniwch Kate Meakin ar 02920 803293 am fwy o wybodaeth.