Cymru'n arwain y ffordd i ddod yn Genedl Fasnach Deg gyntaf yn y byd


Gyda chymorth gwirfoddolwyr ymroddgar o ledled y wlad, mae Cymru wedi dod y Genedl Fasnach Deg gyntaf yn y byd ac mae'n arwain y ffordd at helpu cynhyrchwyr tlawd y trydydd byd i gael pris teg am eu cynnyrch.

Llongyfarchodd y Prif Weinidog, Rhodri Morgan Fforwm Masnach Deg a'r cannoedd lawer o wirfoddolwyr lleol am eu gwaith i sicrhau fod Cymru'n cyrraedd y garreg filltir anhygoel hon.

"Mae hyn yn fraint fawr i Gymru ac mae'n dangos sut y gall gwlad fechan fel ein un ni wneud gwahaniaeth. Mae'r cynnydd a wnaed mewn dwy flynedd yn dyst i frwdfrydedd ac angerdd pobl Cymru," meddai.

Mae'r cyhoeddiad yn dilyn ymgyrch dwy flynedd gan Fforwm Masnach Deg Cymru, a gafodd ei chyllido gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, i sicrhau fod mwy o gynnyrch Masnach Deg ar gael mewn trefi, dinasoedd a siroedd ar draws Cymru, ac annog ysgolion, busnesau a sefydliadau eraill i newid i Fasnach Deg.

Dathlwyd yr achlysur gan arweinwyr Masnach Deg o wledydd sy'n datblygu drwy gychwyn taith banner Masnach Deg Cymru. Cyflwynwyd y faner i Jane Davidson, Gweinidog Llywodraeth Cynulliad Cymru dros Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, mewn Cynhadledd Fasnach Deg a gynhaliwyd yng Nghasnewydd ddydd Sadwrn (7 Mehefin) i ddathlu dechrau'r daith o amgylch Cymru - bydd y faner yn ymweld â phob sir yng Nghymru yn ystod y misoedd i ddod ac yn y diwedd bydd yn cyrraedd Caerdydd mewn pryd ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi 2009.

Meddai Ms Davidson wrth yr uwchgynhadledd: Rwyf wrth fy modd ac yn falch y gall Cymru ei galw ei hunan yn Genedl Fasnach Deg - sy'n nodi cynnydd arwyddocaol yn nifer y sefydliadau, cymunedau a busnesau ar draws Cymru sy'n defnyddio nwyddau ac yn mabwysiadu Masnach Deg.

"Mae Cymru wedi dod yn bell ers 2006 pan osodwyd nifer o dargedau er mwyn i Gymru gyrraedd y nod o ddod yn Genedl Fasnach Deg. Mae gan bawb hawl i fod yn falch o'r hyn sydd wedi'i gyrraedd erbyn hyn ac i edrych ymlaen at adeiladu ar y llwyddiant yma wrth weithredu ail gyfnod ein hymgyrch Cenedl Fasnach Deg.

"Mae Cymru'n dangos sut mae gwlad fechan yn gallu cymryd camau i wireddu newid - ac yn achos Masnach Deg, greu effaith anferth ar fywydau cynhyrchwyr y trydydd byd a'u teuluoedd.

"Heddiw hoffwn gyflwyno fy niolchiadau dwfn i'r bobl a'r sefydliadau yng Nghymru sydd wedi'n helpu i ddod y gyntaf, gobeithiaf, o lawer o Genhedloedd Masnach Deg. Gallwn yn awr adeiladu ar y llwyddiant yma ac edrych ymlaen at weld cenhedloedd eraill yn ymuno â ni fel Cenhedloedd Masnach Deg.

Estynnodd Ian Bretman, Dirprwy Gyfarwyddwr Sefydliad Masnach Deg ei longyfarchiadau i Fforwm Masnach Deg Cymru: "Mae Sefydliad Masnach Deg yn llongyfarch pobl Cymru am bopeth y maen nhw wedi'i wneud i godi ymwybyddiaeth a chynyddu dealltwriaeth o Fasnach Deg a'r angen am systemau masnachu tecach. Rydym yn dymuno pob llwyddiant iddyn nhw wrth ddatblygu'r cyfan sydd wedi'i gyflawni hyd yn hyn ac wrth hyrwyddo'r ymgyrch i ddod â hyd yn oed rhagor o fanteision i gynhyrchwyr y byd sy'n datblygu."

Meddai Duncan Rees, Cadeirydd Fforwm Masnach Deg Cymru: "Diolch i gymorth dros fil o wirfoddolwyr mae'r cynnydd yn ystod prin ddwy flynedd wedi bod yn anghygoel! Heddiw, yng Nghymru mae grwpiau Masnach Deg mewn 58 tref, grwpiau Masnach Deg ym mhob un o'r 22 sir yng Nghymru ac mewn llai na blwyddyn mae dros 380 o ysgolion wedi ymrwymo i ddysgu am Fasnach Deg a defnyddio cynnyrch Masnach Deg. Mae hyn yn gyflawniad ffantastig ac yn glod i bobl Cymru."

"Mae wedi bod yn brofiad gwirioneddol gostyngedig ac mae'n golygu gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau rhai o bobl dlotaf y byd. Po fwyaf o wledydd sy'n derbyn her Cenedl Fasnach Deg, y mwyaf o bobl y bydd yn gallu masnachu eu ffordd allan o dlodi."

Eglurodd Duncan Rees fod cyrraedd y cyfnod cyntaf - o wneud Cymru'n Genedl Fasnach Deg, yn ddim ond dechrau'r daith i'r ymgyrch.

"Er mwyn cynnal a gwella safle Cymru fel Cenedl Fasnach Deg - mae'n rhaid i ymwybyddiaeth a'r defnydd o nwyddau Masnach Deg gan y bobl, sefydliadau a busnesau Cymru barhau i dyfu. Mae pawb yng Nghymru'n gallu'n helpu ni wrth newid i Fasnach Deg. Wrth i ymwybyddiaeth o fanteision Masnach Deg dyfu, rwy'n hyderus y bydd defnyddwyr Cymru'n fodlon ein cefnogi yn yr ymgyrch a phrynu rhagor o nwyddau."