Gwirfoddolwyr Ysgolion Masnach Deg
Os oes gennych ddiddordeb gwirfoddoli ar ein Cynllun Ysgolion Masnach Deg, cysylltwch â ni: schools@fairtradewales.com
Swyddi Gwirfoddoli
Rydym yn chwilio am siaradwyr ac aseswyr i gynorthwyo gyda’r Cynllun Ysgolion Masnach Deg. Sefydlwyd y Cynllun Ysgolion Masnach Deg i helpu ysgolion gyda’u gweithgareddau Masnach Deg. Rydym yn darparu gwybodaeth, adnoddau a chefnogaeth i ysgolion gyda’r nod o gynyddu ymwybyddiaeth a gweithgaredd Masnach Deg ymysg pobl ifainc. Gall ysgolion sicrhau statws Masnach Deg, a derbyn tystysgrif i ddangos eu hymrwymiad i Fasnach Deg.
Mae llawer o ysgolion ledled Cymru yn awyddus i gymryd rhan yn y Cynllun Masnach Deg. Felly rydym yn y broses o recriwtio siaradwyr ac aseswyr gwirfoddol i weithio gydag ysgolion yn eu hardal leol. Byddwn yn darparu hyfforddiant trylwyr, adnoddau a threuliau ar gyfer y ddwy swydd.
Siaradwr Ysgol
Bydd yn ofynnol ymweld ag ysgolion sydd wedi gofyn am Siaradwr Masnach Deg. Bydd angen i chi fod â diddordeb mewn Masnach Deg, yn siaradwr hyderus, ac yn gallu gweithio’n dda gyda phlant. Darperir diwrnod hyfforddiant ac adnoddau i chi eu defnyddio. Gallwch wirfoddoli cyn lleied neu gymaint ag y dymunwch, fel sy’n addas ar gyfer eich trefniadau chi
Asesydd
Bydd angen asesu/marcio ceisiadau Masnach Deg gan ysgolion. Anfonir ceisiadau ymlaen i chi, felly gallwch wneud y gwaith hwn o’ch cartref. Byddwn yn rhoi meini prawf i chi ar gyfer marcio’r ceisiadau, a darperir diwrnod o hyfforddiant.
Dyddiadau Hyfforddi
15 Awst, Caerdydd, Diwrnod Hyfforddi Asesydd Ysgolion Masnach Deg, 12pm – 5pm Cliciwch am ffurflen archebu lle. 12 Medi, Abertawe, Diwrnod Hyfforddi Siaradwr Ysgolion Masnach Deg, 10am – 5pm. Cliciwch am ffurflen archebu lle.19 Medi, Bangor, Diwrnod Hyfforddi Siaradwr Ysgolion Masnach Deg, 10am – 5pm. Cliciwch am ffurflen archebu lle.