Y Newyddion Diweddaraf O Uganda

Mbale  

Mis Tachwedd 2009

Ychydig dros flwyddyn yn ôl y des i i Affrica am y tro cyntaf a nawr dwi nôl am fy nhrydydd trip, yn gweithio gyda chwmni cydweithredol Gumutindo sy’n cynhyrchu coffi, ac yn gweithio yn ei swyddfa a’u warws ym Mbale. Dydw i ddim yn “fachgen newydd” syfrdan rhagor, ond mae’n dal i fod yn brofiad anhygoel gadael Ewrop a chyrraedd yma. Tra roeddwn i adref fe ddarllenais i “Africa, altered states, ordinary miracles” gan Richard Dowden ac mae e wedi dal y trawsnewid hwn yn hyfryd felly fe wna i ddyfynnu rhan ohono:

“Roeddwn i’n gwylio’r haul yn machlud, yn grebachlyd ac yn grintachlyd, dros stryd oer, lwydaidd yn Llundain a’r bore wedyn yn sefyll y tu allan i gwt pridd ar ochr mynydd yng Nghenya a’i weld yn codi mewn gorfoledd dros wastadeddau Dwyrain Affrica. Mae Affrica’n agos.

Does dim llawer o bobl yn mynd yno. Mae gan Affrica enw am dlodi, clefydau, rhyfel. Ond pan fo pobl ddiarth yn mynd yno maen nhw’n aml yn cael eu synnu gan groeso Affrica sy’n codi syndod yn hytrach nag ofn. Mae ymwelwyr yn cael croeso a gofal yn Affrica. Os ewch chi yno fe gewch fod y rhan fwyaf o Affricanwyr yn gyfeillgar, yn dyner ac yn hynod o foesgar. Yn aml fe deimlwch yn ostyngedig yn wyneb caredigrwydd Affricanaidd... Does yna ddim gwên ffals gobeithio-y-cewch-ddiwrnod-da yn Affrica. Bydd Affricanwyr, wrth eich cyfarfod, yn eich cyfarch ac yn siarad â chi, yn edrych i fyw eich llygaid ac yn dangos empathi, yn dal dwylo a chofleidio, rhannu a derbyn oddi wrth eraill heb swildod anghyfforddus. Mae’r pethau hyn i gyd mor naturiol â cherddoriaeth yn Affrica.”

Nid arweinlyfr i dwristiaid mo hwn gyda llaw ond golwg graff ar Affrica heddiw sy’n aml yn anghyfforddus i’w ddarllen.

Rydw i wedi bod yma ers tair wythnos bron erbyn hyn ac wedi haf hir o dreulio amser gyda fy nheulu a ffrindiau, garddio, cerdded a gwneud jam a siytni nôl yng nghanolbarth Cymru, rydw i unwaith eto’n dal i fyny â’r busnes coffi. Roedd y tymor diwethaf sydd newydd ddod i ben yn un da.  Aeth chwech ar hugain o amlwythi o goffi ardderchog Arabica Masnach Deg ,a bron i gyd yn organig, i wahanol rannau’r byd.  Erbyn hyn mae’r siediau storio ym Mbale bron yn wag. Erbyn hyn mae’r coffi’n cael ei gynaeafu unwaith eto ar y mynydd ac wrth i mi ysgrifennu hwn mae’n dechrau cyrraedd fel memrwn yma yn y dre. Roedd ddoe, Dydd Gwener, yn arwydd o’r hyn sydd i ddod gyda thair lori wahanol yn cyrraedd gyda bagiau o goffi oddi wrth y cwmnïau cydweithredol llai sy’n cynhyrchu coffi.  

Rydyn ni nawr yn yr ail dymor glawog sy’n fyrrach, a hyd yn hyn mae wedi bwrw bron bob prynhawn.  Mae hyn yn golygu bod y ffermwyr yn ei chael yn anodd sychu eu coffi’n cyn iddo ddod i Mbale. Caiff ei brofi wrth iddo gyrraedd ac os yw’n cynnwys mwy na 13% o leithder bydd angen ei sychu ymhellach cyn mynd i’r storfa. Felly am yr ychydig ddyddiau diwethaf mae pob man sydd ar gael y tu allan ar dir Mbale wedi ei orchuddio â choffi’n sychu ar lieiniau cynfas mawr. Yn y cyfamser mae angen cadw “llygad tywydd” go iawn ar y mynydd am arwyddion o unrhyw law sydd ar y ffordd fel y gallwn ei gasglu a’i orchuddio mewn pryd. Yn ffodus roedd y rhan fwyaf wedi llwyddo i sychu erbyn i mi adael brynhawn ddoe ar ddiwedd yr wythnos.  

Mae yna beth gofid eleni a ellir casglu digon o gnwd o goffi oddi wrth ffermwyr  Gumutindo ar gyfer yr archebion y cytunwyd arnyn nhw’n barod. Roedd y prif dymor glawog yn siomedig ac mae’n siŵr eich bod wedi darllen am y sychdwr yn Kenya sy’n rhannu Mynydd Elgon gydag Uganda. Mae hyn wedi effeithio ar y cnwd coffi ac mewn rhannau eraill o’r wlad mae wedi effeithio’n ddifrifol ar fwydydd sylfaenol, nid ar gnydau a dyfir i’w gwerthu yn unig. Mae yna rai problemau ar ochr Uganda o’r mynydd ond dydyn nhw ddim mor ddifrifol, yn ôl yr hyn rydw i’n ddeall. Mae pobl wedi ailblannu cnydau bwyd er mwyn ceisio gwneud iawn am y colledion yn yr ail dymor glawog, sef y tymor rydyn ni ynddo nawr.   

Ar fy niwrnod cyntaf yn y swyddfa, fe ges i gyfle i fynd i fyny’r mynydd i Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol un o’r cwmnïau cydweithredol, sef Buginyanya lle roeddwn i wedi treulio wythnos ar drip blaenorol. Nawr, fe wn yn iawn, fel arfer does neb yn cael ei gyffroi gan y syniad i fynychu Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, hyd yn oed un i fyny bron 7000 troedfedd ond roedd gen i syniad y byddai hwn yn wahanol ac felly y bu. Roeddwn i wedi gobeithio y gallwn eistedd yn dawel yn y cefn, ac os oedd rhaid, gallwn fynd i gysgu, gan fy mod i’n dal i deimlo’n flinedig ar ôl fy siwrnai nôl i Mbale, ond yn anffodus, gan fy mod i’n ymwelydd, roedd yn rhaid i mi eistedd ar y prif fwrdd yng ngŵydd pawb. Felly gyda fy llygaid yn gweithio’n galed i gadw ar agor mewn cyfarfod a fyddai’n para chwe awr, fe wyliais y ddrama’n datblygu.

I ddechrau, busnes arferol Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol. Cymerodd hyn yn hwy nag a wnâi ym Mhrydain, oherwydd roedd anerchiadau ac ymatebion yn rhan bwysig o drefn y cyfarfod yma a gall y rhain fod yn hir. Dwi’n gwybod bod nifer o bobl yng Nghymru’n mwynhau areithio ond mae’n ymddangos bod gan bawb yn Uganda araith ynddyn nhw, boed nhw’n ffermwr, yn wleidydd neu’n glerigwyr. Dylwn ychwanegu yma mai dyma’r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol cyntaf i gael ei gynnal am dair blynedd a’r hyn a ddechreuodd ddod i’r amlwg o’r llawr oedd bod pethau wedi datblygu’n rhy gyfforddus at ddant nifer o’r ffermwyr. I ychwanegu at y ddrama, pan oedd y trysorydd yn rhoi ei hadroddiad, dyma’r cymylau’n arllwys eu glaw uwch ein pennau ac roedd sŵn y glaw ar y to tun yn annisgrifiadwy. Ni ellid clywed na gwneud dim nes i’r glaw basio mewn rhyw bum munud. Sut bynnag yr edrychid ar hyn, roedd yn bendant yn ychwanegu at y ddrama. Pan ddaeth yn amser cynnal yr etholiadau a’r canfasio, trodd pethau’n fywiog a dweud y lleiaf gyda chryn dipyn o ystumio a lleisiau wedi eu codi. Ar gyfer yr etholiad ei hun, allan â ni i ffurfio llinell drefnus y tu ôl i’r ymgeisydd o’ch dewis tra bod canfasio munud olaf yn ei anterth ar draws y llinellau a ffurfiwyd. Cymerodd hyn yn agos i awr ac edrychai am sbel y gallai ddirywio i fod yn ddim ond cyfnod o weiddi. Dywedodd un o’r ffermwyr wrtha i dros y sŵn yma i gyd ac yn amlwg â balchder “beth ydych chi’n feddwl o’n democratiaeth?” - hyn yn Saesneg. (Roedd y cyfarfod yn cael ei gynnal, fe ddylen i ychwaneg, yn yr iaith leol, Lugisu, gyda phobl yn cyfieithu ar fy nghyfer pan fyddai’r cyfle’n codi.)  Yna’r canlyniadau a’r pwyllgor newydd wedi ei ethol tra’n cadw’r cadeirydd gwreiddiol oedd i mi, ac i eraill oedd yn yno, yn ffordd ddiogel ymlaen. Creodd hyn gryn argraff arna i : Cyfarfodydd Cyffredinol Blynyddol â theimlad! Roedd yna ychydig dros gant o ffermwyr yn y cyfarfod a’r wisg ar gyfer Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ar Fynydd Elgon: crys a thei ond gydag esgidiau glaw du ar eu traed. Dyma’r ail gyfarfod blynyddol i mi ei weld - roedd y llall yn trafod anghydfod tir mewn cwmni cydweithredol gerllaw - yr hyn a ymddangosai fel siarad diddiwedd a defodol yn arwain yn y pen draw at gytundeb ynghylch y ffordd ymlaen. Mae’n hawdd anghofio, oherwydd yr hyn a glywn ni yn y gorllewin am wleidyddiaeth Affrica, bod yma draddodiad o siarad a chreu consensws. Mae’n ymddangos i mi ei fod mewn cyflwr da o leiaf ar lefel bentref.  

Ar ôl chwe awr gyda dim ond potel o Coca Cola cynnes, fe gawson ni’r ymwelwyr ein gwahodd i gwt cyfagos i gael pryd o fwyd. Wnaeth matooke a chyw iâr wedi ei ferwi ddim blasu’n well erioed. Rydw i wedi sylwi bod nifer o’r cytiau yma’n defnyddio hen bapurau newydd fel papur ac addurniadau wal ac ar yr un yma roedd yna luniau o’r Pab, y Frenhines Elizabeth a nifer o wleidyddion o Uganda. Rydw i wedi gweld y casgliad yma o’r blaen ac unwaith neu ddwy wedi gweld y Pab a’r Frenhines drws nesaf i  Saddam Hussein! Alla i ddim dechrau llunio’r cwestiwn cywir i’w ofyn am y cyfuniad yna.

Yn fy nghyfnod i yma, rydw i’n aros gyda theulu o Uganda ychydig filltiroedd allan o’r dre ac yn mwynhau hynny’n fawr. Mae gen i ystafell fach ond cyfforddus mewn rhan o gasgliad o dai ar ffurf L gyda nifer o deuluoedd sy’n perthyn yn byw ynddyn nhw ac yn ein hamgylchynu mae yna ardd llysiau bendigedig tuag erw o faint. Dydw i ddim wedi gweithio allan beth yw’r holl berthnasau eto ond dwi’n gwneud cynnydd. Mae yna ieir ymhobman, a dwi’n hoffi hynny ond dyw hi ddim yn hawdd dod i arfer â sŵn y ceiliogod yn canu y tu allan i ffenest f’ystafell wely.  

Yn olaf: mae’r gyrwyr tacsi neu matatu yn chwedlonol yn Uganda am eu gyrru erchyll ond maen nhw’n “gludiant cyhoeddus” ac yn fodlon mynd i bobman. Fe ddylen i ychwanegu mai bysiau mini yw’r tacsis yma, bob amser yn Japaneaidd (Hiace) a bron bob amser yn wyn, gyda mwd wedi ei dasgu ar eu hyd, gyda streipen las fylchog ar eu hochrau. Mae nifer yn cefnogi eu timau pêl-droed (prif gynghrair Prydain - Man U. Chelsea, Arsenal  a Lerpwl y mwyaf poblogaidd) ond maen nhw hefyd yn rhoi nifer o ddywediadau crefyddol rhyfedd ar y ffenestri cefn. Gan un mae “Mae Duw hefyd yn deithiwr” ac un arall, yr enigmatig “Duw faddeuo i ni”. Dwi’n dal i feddwl a yw hyn yn cyfeirio at y gyrru neu rywbeth arall.

John
Tachwedd  2il 2009