Ysgolion
Pythefnos Masnach Deg
Dathlwch Masnach Deg drwy gynnal Te Parti gwyllt. Y ddwy thema eleni yw te a chotwm. Gallwch gyfranogi yn y ffyrdd canlynol:
· Adnoddau: Archebwch eich CD adnoddau am ddim, gyda chynlluniau gwersi, gweithgareddau a gwasanaethau; i gyd ar thema Cotwm Masnach Deg – schools@fairtradewales.com
· Te parti: Cynhaliwch eich te parti Masnach Deg eich hun – gan ddefnyddio cacennau, te a sudd Masnach Deg. Bydd prysurdeb y partïon yn digwydd ar y 5ed Mawrth, bydd ysgolion ar hyd a lled Cymru’n cynnal eu te parti Masnach Deg eu hunain. Os hoffech chi ymuno gallwch gofrestru’ch digwyddiad gyda ni ar y cyfeiriad e-bost isod.
· Lliain Bwrdd: Cyfrannwch at liain bwrdd mwyaf Cymru ar gyfer te parti y byddwn yn ei gynnal gyda ACau ac ASau! Rydyn ni’n ceisio torri record gyda’r lliain bwrdd mwyaf! Fe hoffen ni i ysgolion gymryd rhan trwy gyfrannu clytwaith. Os oes gennych ddiddordeb cysylltwch â ni isod.
· Llyfrau: Mae ganddon ni lyfrau Masnach Deg ‘Charlie and Lola’ am ddim i’w rhannu. Os yw’ch ysgol am roi thema Masnach Deg i Ddiwrnod y Llyfr (gan ddefnyddio llyfrau Charlie and Lola neu’r syniad te parti’r ‘Mad Hatter’) rhowch wybod ac fe anfonwn ni rai atoch. Mae diwrnod y llyfr yn ystod Pythefnos Masnach Deg (4ydd Mawrth)
Y cyfnewid mawr! Os ydych am wneud rhywbeth mawr i Fasnach Deg eleni, gallai’ch ysgol ymuno yn y cyfnewid mawr! A hynny drwy edrych ar y syniad o gyfnewid eich gwisg ysgol am wisg cotwm Masnach Deg!
Gallwch ddewis un neu bob un o’r pethau uchod! Ond plîs dewiswch o leiaf un gan ymuno â mudiad Masnach Deg yng Nghymru. Cymru yw’r Wlad Masnach Deg gyntaf yn y byd ac rydyn ni’n arwain y ffordd gydag Ysgolion Masnach Deg! Gadewch i ni ddangos i’r byd sut mae gwneud!
Ein manylion cyswllt: schools@fairtradewales.com