Sut i ddod yn Sir Fasnach Deg

I ddod yn sir Fasnach Deg, mae'n rhaid i chi gyrraedd y 5 Nod sy'n cael eu gosod i lawr gan Sefydliad Masnach Deg. Mae'r nodau'n debyg i'r rhai sydd eu hangen i ddod yn Sir Fasnach Deg, er yn amlwg ar raddfa fwy. Mae'r 5 Nod fel a ganlyn:

1. Sefydlu Pwyllgor Llywio
Mae'n rhaid cael pwyllgor llywio lleol er mwyn sicrhau ymrwymiad parhaus i Statws Masnach Deg. Yn ddelfrydol dylai'r grŵp gynnwys cynrychiolydd o'r cyngor, ymgyrchwyr a phobl yn cynrychioli ysgolion, grwpiau ffydd a busnesau'r sir. Y grŵp fydd yn gyfrifol am gyflwyno cais am Statws Masnach Deg.

2. Penderfyniad Cyngor Lleol
Dylai'r cyngor lleol cymryd penderfyniad yn cefnogi Masnach Deg a chytuno i weini te a choffi Masnach Deg yn ei gyfarfodydd, ei swyddfeydd a'i ffreutur.

3. Cynnyrch Masnach Deg Ar Gael yn Lleol
Dylai cynnyrch Masnach Deg fod ar gael yn rhwydd mewn siopau a chaffis / sefydliadau arlwyo'r ardal. Dylai fod yn hawdd i bobl leol gael cynnyrch Masnach Deg wrth iddynt siopa bob dydd. Mae targedau penodol ar gael ar y dudalen adnoddau.

4. Masnach Deg yn y Gweithleoedd a Sefydliadau Lleol
Dylai cynnyrch Masnach Deg fod yn cael ei ddefnyddio gan nifer o weithleoedd lleol a sefydliadau cymunedol (eglwysi, ysgolion ayb). Dylai hynny hefyd gynnwys un o'r cyflogwyr gorau.

5. Dennu Sylw'r Cyfryngau a Chefnogaeth Poblogaidd
Gellir adnewyddu'r stori ar gyfer y wasg pob tro mae nod yn cael ei gyrraedd, trefnu sblash mawr ar gyfer y seremoni wobrwyo Statws Masnach Deg a datblygu strategaeth i'w gadw am yn y newyddion am yn hir wedyn.


<< Yn ôl i brif dudalen Siroedd Masnach Deg