Sut i ddod yn Dref Fasnach Deg

I ddod yn dref Fasnach Deg, mae'n rhaid i chi gyrraedd y 5 Nod sy'n cael eu gosod i lawr gan Sefydliad Masnach Deg. Y 5 nod yw:

1. Sefydlu Pwyllgor Llywio
Mae'n rhaid cael pwyllgor llywio lleol er mwyn sicrhau ymrwymiad parhaus i Statws Masnach Deg. Yn ddelfrydol dylai'r grŵp gynnwys cynrychiolydd o'r cyngor, ymgyrchwyr a phobl yn cynrychioli ysgolion, grwpiau ffydd a busnesau'r dref. Y grŵp fydd yn gyfrifol am gyflwyno cais y dref am Statws Masnach Deg

2. Penderfyniad Cyngor Lleol
Dylai'r cyngor lleol gymryd penderfyniad yn cefnogi Masnach Deg a chytuno i weini te a choffi Masnach Deg yn ei gyfarfodydd, yn ei swyddfeydd ac yn ei ffreutur.

3. Cynnyrch Masnach Deg Ar Gael yn Lleol
Dylai cynnyrch Masnach Deg fod ar gael yn rhwydd mewn siopau a chaffis / sefydliadau arlwyo'r ardal. Dylai fod yn hawdd i bobl leol ganfod cynnyrch Masnach Deg wrth siopa bob dydd. Mae targedau penodol ar gael ar y dudalen adnoddau.

4. Masnach Deg mewn Gweithleoedd a Sefydliadau Lleol
Dylai cynnyrch Masnach Deg gael ei ddefnyddio gan nifer o weithleoedd a sefydliadau cymunedol lleol (eglwysi, ysgolion ayb). Dylai hynny hefyd cynnwys un o'r cyflogwr gorau.

5. Denu Sylw'r Cyfryngau a Chefnogaeth Boblogaidd
Gellir adnewyddu'r stori ar gyfer y wasg bob tro mae nod yn cael ei gyrraedd, trefnu sblash mawr ar gyfer y seremoni wobrwyo Statws Masnach Deg a datblygu strategaeth i'w gadw yn y newyddion am yn hir ar ôl hynny.


<< Yn ôl i brif dudalen Trefi Masnach Deg