YnglÅ·n â Masnach Deg a Masnach Deg Cymru

Mae Masnach Deg yn golygu creu cyfleoedd i gynhyrchwyr yn y byd sy'n datblygu, er mwyn iddyn nhw gael pris teg am eu nwyddau a gweithio'u ffordd allan o dlodi. Yn syml iawn, mae'n gyfle iddyn nhw wella'u bywydau a bywydau'u teuluoedd, ac mae mor syml â'r dewisiadau rydych yn eu gwneud wrth siopa'n wythnosol.

Drwy ddilyn y dolenni ar yr ochr chwith, cewch lawer o wybodaeth am Fasnach Deg ac ymgyrch Gwlad Masnach Deg yng Nghymru. A pheidiwch ag anghofio edrych ar adran Newyddion y wefan am wybodaeth am ddigwyddiadau a newyddion o bob rhan o Gymru!

Gallwch gysylltu â ni am ragor o wybodaeth ac i gymryd rhan yn ymgyrch masnach deg yng Nghymru.

Mae Cymru Masnach Deg yn bodoli er mwyn i sefydliad Masnach Deg dyfu yng Nghymru.

Rydym yn gwneud hynny drwy:

  • Arwain ymgyrch Cenedl Fasnach Deg
  • Cefnogi a datblygu gweithgaredd sylfaenol Masnach Deg - o grwpiau trefi a siroedd i ysgolion
  • Cynhyrchu gwefan a defnyddiau dwyieithog
  • Gweithio gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru i ddylanwadu ar newid dros Fasnach Deg

Dros y tair blynedd diwethaf Llywodraeth Cynulliad Cymru sydd wedi cyllido Fforwm Masnach Deg Cymru.

Ar 6 Mehefin 2008 cafodd Cymru'r llwyddiant hanesyddol o ddod y genedl Fasnach Deg gyntaf erioed. Daeth y cyhoeddiad yn dilyn ymgyrch ddwy flynedd gan Gymru Masnach Deg, gyda chyllid gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, i sicrhau fod mwy o gynnyrch Masnach Deg ar gael mewn trefi, dinasoedd a siroedd ledled Cymru, ac i annog ysgolion, busnesau a sefydliadau eraill i newid i Fasnach Deg.

I ganfod rhagor ynghylch ymgyrch Cenedl Fasnach Deg cliciwch yma.

Defnyddiwch y dolenni uchod i archwilio meysydd gwahanol sefydliad Masnach Deg yng Nghymru a gweld sut y gallwch chi gymryd rhan. Cofiwch ymuno â'n rhestr cefnogwyr os hoffech dderbyn ein llythyr newyddion misol.