Cymerwch ran!
Mae digonedd o ffyrdd y gallwch gymryd ran ym Masnach Deg yng Nghymru a helpu i gefnogi'n hymgyrch i ddod yn Wlad Fasnach Deg.
Prynwch gynnyrch Masnach Deg o leiaf unwaith yr wythnos.
Gyda thros 1,500 o gynnyrch i ddewis ohonyn nhw mae wastad le ar gyfer rhai eitemau Masnach Deg ar eich rhestr siopa.
Dywedwch wrth eich holl deulu a ffrindiau am gefnogi Masnach Deg!
Er gwaetha'r ffaith fod y rhan fwyaf o bobl yng Nghymru wedi clywed am Fasnach Deg, mae'n anhygoel cyn lleied sy'n deall mewn gwirionedd pam ei fod mor bwysig. Gallwch lawr lwytho taflenni defnyddiol yn ein hadran Adnoddau.
Helpwch i Wneud eich Tref neu eich Sir yn Fasnach Deg
Mae grwpiau Masnach Deg y gallwch ymuno â nhw ym mhob sir yng Nghymru ac mewn nifer o drefi. Ac os nad oes un yn eich tref chi, dechreuwch un!
Hyrwyddo Masnach Deg yn Eich....
Gweithle, Ysgol, Prifysgol, Coleg neu Fan Addoli. Helpwch i ledaenu'r gair a chael mwy o bobl i arfer Masnach Deg!
<< Yn ôl i dudalen Ynglŷn â Masnach Deg Cymru