Masnach Deg a Lleol
Rydyn ni'n credu y dylai ffermwyr ym mhob man gael eu trin yn deg a, thrwy ddewis cynnyrch Masnach Deg a chynnyrch lleol, y gallwn greu byd tecach, mwy cynaliadwy.
Ni ellir cynhyrchu'r mwyafrif llethol o gynnyrch Masnach Deg yn y wlad hon, felly prynwch yn lleol ble bo'n bosibl wrth wneud eich siopa wythnosol a phrynwch Fasnach Deg wrth brynu nwyddau wedi'u mewnforio megis te a choffi.
Drwy brynu cynnyrch lleol a chynnyrch Masnach Deg mae prynwyr yn dewis rhoi bargen deg i ffermwyr ble bynnag y maen nhw. Y manteision o ddewis prynu Masnach Deg ac o brynu'n lleol yw:
•Cymunedau cryfach - gartref a thramor
•Parchu'r amgylchedd
•Cynaliadwyedd tymor hir
•Cydnabod y bobl y tu ôl i'r cynnyrch
Undeb Amaethwyr Cymru
Rydym wedi ymuno ag Undeb Amaethwyr Cymru i gytuno ar y neges "Os na allwch chi brynu cynnyrch lleol, prynwch gynnyrch Masnach Deg".
Mae Cymru Masnach Deg ac Undeb Amaethwyr Cymru'n cytuno nad oes unrhyw wrthdaro rhwng prynu cynnyrch Masnach Deg a phrynu cynnyrch lleol. Prynwch gig, cynnyrch llaeth a chynhyrchion eraill yn lleol i gefnogi'ch economi leol a phrynwch goffi, te, ffrwythau a chynhyrchion Masnach Deg eraill na ellir eu prynu'n lleol i helpu cynhyrchwyr yn y byd sy'n datblygu gael bargen deg.
Mae'r ddau, prynu'n lleol ac yn fyd-eang, yn bwysig i helpu creu byd tecach.
Gallwch ddarllen gwybodaeth oddi wrth Undeb Amaethwyr Cymru yma http://www.fuw.org.uk/FairTrade.html
Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr (NFU)
Mae Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr Cymru hefyd wedi cytuno i gefnogi gwaith Cymru Masnach Deg ac wedi cydnabod y gwaith y mae Masnach Deg yn ei wneud i helpu cefnogi ffermwyr yn y gwledydd sy'n datblygu.
Mae NFU Cymru wedi datgan er bod "gan Gymru amodau delfrydol i gynhyrchu rhai o fwydydd gorau'r byd ... mae'n rhaid i ni hefyd gydnabod fod ffermydd mewn hinsawdd wahanol yn cynhyrchu bwydydd y mae bron yn amhosibl i ni eu tyfu".
Yn ei ddigwyddiad bwydydd Cymru yn 2009, cyhoeddodd yr NFU yn eu dathliadau fod popeth na ellid ei gael yn lleol "wedi'i gael yn unol â phrotocolau Cymru Masnach Deg i ddangos ein cefnogaeth i Gymru Masnach Deg".
Gwybodaeth bellach
Os hoffech ragor o wybodaeth ar sut y mae Masnach Deg a lleol yn cydfyw, llawr lwythwch ein ffeithlen ddwyieithog drwy glicio yma.