Ymrwymiad Llywodraeth Cynulliad Cymru

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi pwysleisio lawer gwaith ei ymrwymiad tymor hir i gefnogi Masnach Deg. Yn benodol mae wedi addo:

  • Defnyddio a hyrwyddo cynnyrch Masnach Deg yn fewnol gan gynnwys te / coffi / siwgr / bisgedi yn ei holl gyfarfodydd.
  • Sicrhau fod cynnyrch Masnach Deg ar gael yn ei holl fannau arlwyo a pheirannau gwerthu.
  • Hyrwyddo'n eiddgar Bythefnos Masnach Deg pob blwyddyn.
  • Amlygu Masnach Deg fel model masnach amgen ymarferol, gan ddangos ei gefnogaeth dros Gyfiawnder Masnach yn fyd eang.
  • Cynhyrchu adroddiad blynyddol cyhoeddus ar y cynnydd gydag ymgyrch gwlad Masnach Deg gan gynnwys ymwybyddiaeth o Fasnach Deg a gwerthu nwyddau Masnach Deg.
  • Darparu cefnogaeth ariannol ar gyfer hyrwyddo a datblygu Masnach Deg yng Nghymru.
  • Cynhyrchu canllaw caffael sy'n ffafrio caffael cynnyrch Masnach Deg.
  • Cyllido ymgyrch genedlaethol i hyrwyddo Masnach Deg mewn ysgolion.
  • Hyrwyddo Masnach Deg trwy gytundebau masnachol, Memoranda o Gytundeb ayb.
  • Darparu adnoddau penodol i ddatblygu busnesau Masnach Deg newydd a phresennol.
  • Gofyn i holl gytundebau'r sector cyhoeddus cael polisi Masnach Deg oddi wrth y cyflenwr.

<< Yn ôl i dudalen Ynglŷn â Masnach Deg Cymru