Ysgol y Mis

Bob mis, rydym yn cydnabod un ysgol mewn modd arbennig am ei hymdrechion Masnach Deg. Gallai fod yn unrhyw beth o ddigwyddiad Masnach Deg ffantastig i ddysgu Masnach Deg dwys yn y dosbarth. Mae ysgolion ledled y wlad yn gweithio'n galed iawn ar faterion Masnach Deg; yn sicrhau fod disgyblion yn datblygu ac yn dysgu yng nghyd-destun Dinasyddiaeth Fyd-eang. Os hoffech enwebu ysgol fel Ysgol Masnach Deg y Mis, anfonwch neges at schools@fairtradewales.com

 

Hydref 2011

Ysgol Gynradd Plasnewydd (Pen-y-bont ar Ogwr) yw enillwyr Cystadleuaeth Cân Masnach Deg 2011! Cynhaliwyd y digwyddiad yn Ffair Masnach y Byd, Cymru yn y Fenni ar 2 Hydref, wedi’i drefnu gan Martha Musonza Holman. Syfrdanwyd y gynulleidfa gan dalentau cerddorol, gwisgoedd ac offer rhagorol a hetiau hwyliog y disgyblion! Llongyfarchiadau i bawb! Cadwch eich llygaid ar agor am fanylion cystadleuaeth y flwyddyn nesaf!

 

 

Medi 2011

Mae Ysgol Gynradd Gymunedol Tafarn-sbeit (Sir Benfro) wedi dechrau’r flwyddyn ysgol drwy ganolbwyntio ar Fasnach Deg mewn Pêl-droed. Yn ddiweddar cafwyd gwasanaeth a gwersi yn edrych ar y diwydiant peli chwaraeon, a’r gwahaniaeth y mae masnach deg yn ei wneud i’r bobl sy’n eu cynhyrchu. Maent hefyd ar hyn o bryd yn trefnu twrnament Pêl-droed Masnach Deg. Ffordd wych o fwynhau a chefnogi cynhyrchwyr Masnach Deg ar yr un pryd! Beth am i chi gymryd her Pêl-droed Masnach Deg hefyd? Edrychwch ar ein adran adnoddau i ddod o hyd i’n cyflwyniad pêl-droed!

 

Mehefin 2011

Gweithiodd Ysgol Dyffryn Teifi mewn partneriaeth gyda Chyngor Sir Ceredigion i gynnal Diwrnod Masnach Deg Hwyliog ac Iachus ar gyfer ysgolion cynradd yr ardal. Cafodd y 70 disgybl a fynychodd eu cyfarch i ddechrau gan y pennaeth, ac yna dangoswyd cyflwyniad gan Ysgol Masnach Deg, Ysgol Llangynfelin. Gyda chymorth myfyrwyr chweched dosbarth Dyffryn Teifi, cawsant gyfle i gyfranogi mewn cyfres o weithdai hwyliog a oedd yn cynnwys gwneud diodydd banana Masnach Deg gyda gan ddefnyddio peiriant smwddis yn cael ei yrru gan feic, cystadleuaeth sgorio pêl-droed Masnach Deg, chwarae rôl gwneud bagiau papur, gweithgaredd difyr ar gotwm Masnach Deg, golwg ar ble mae ein bwyd bob dydd yn cael ei dyfu, sesiwn ddrymio fywiog, ac yn olaf, gweithdy yn codi ymwybyddiaeth o hawliau plant. Cafodd pawb fwynhau pice ar y maen blasus, a wnaed gan arlwywyr ysgol Dyffryn Teifi, gyda siwgr Masnach Deg. 

Mai 2011

Mae Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Ponthir wedi bod yn gweithio’n galed gyda’u hawdurdod lleol, Torfaen, i geisio cael mwy o gynnyrch Masnach Deg ar gyfer yr ysgol. Llwyddwyd i newid eu sudd oren at rai Masnach Deg! Mae hyn yn llwyddiant pwysig ac yn golygu mwy o gefnogaeth i ffermydd orennau Masnach Deg yn Ne Affrica. Llongyfarchiadau Ponthir - gwaith da iawn!

Ebrill 2011

Enwyd Ysgol Gynradd Millbank yn ysgol mis Ebrill am eu prosiect creadigol ‘A Big Hand for Fairtrade’.  Gwahoddwyd disgyblion, staff, rhieni, ymwelwyr a hyd yn oed y gwesteion arbennig, Kevin Brennan AS a Rhodri Morgan AC i wneud print o’u dwylo a rhoi adduned dros Fasnach Deg ar faner enfawr. Yna cafodd ei lapio o amgylch yr ysgol i ddangos yr holl gefnogaeth i Fasnach Deg yn eu cymuned leol. Roedd hyn yn rhan o weithgareddau Pythefnos Masnach Deg 2011, yn ogystal â The Parti a Ffair Masnach Deg. I weld eu gweithgareddau ewch at wefan Ysgol Gynradd Millbank.

Mawrth 2011

Defnyddiodd Ysgol Tregarth Bythefnos Masnach Deg i gynllunio swm enfawr o weithgareddau a digwyddiadau ar thema Masnach Deg. Mewn gwirionedd, roedd eu holl waith yn ystod y bythefnos ar thema Masnach Deg! Mae hynny’n dangos bod modd cysylltu Masnach Deg gydag unrhyw faes o’r cwricwlwm neu weithgaredd ysgol, a pharhau i ddysgu pynciau craidd a sgiliau. Gwaith ardderchog Tregarth! 

Chwefror 2011

Penderfynodd Ysgol Rougemont gynnal cystadleuaeth cacennau Masnach Deg i’r holl ysgol! Bu’r plant yn gwneud cacennau, yna beirniadwyd y cacennau i benderfynu pa un oedd y mwyaf blasus – gwaith anodd iawn! Gwerthwyd y cacennau mewn bore coffi i godi arian ar gyfer ysgol bartner Rougemont yn Zimbabwe. Syniad ardderchog a ffordd wych i gynnwys y plant, athrawon, staff yr ysgol a’r gymuned leol!

Ionawr 2011

Mae Ysgol TÅ· Coch yn ysgol breswyl ym Mhontypridd ar gyfer plant ag anawsterau dysgu difrifol, a rhai ag Anhwylderau Sbectrwm Awtistig. Mae adran Ymadawyr/Ôl 16 Ysgol TÅ· Coch wedi bod yn hyrwyddo Masnach Deg mewn nifer o ffyrdd dyfeisgar a chyffrous, er enghraifft hyrwyddo Masnach Deg yn salon gwallt yr ysgol i aelodau’r ysgol a’r gymuned ehangach, a defnyddio cynnyrch Masnach Deg yn y caffi. Mae pob un o’r myfyrwyr wedi bod yn frwd iawn, ac yn edrych ymlaen at ennill statws Ysgol Masnach Deg. Llongyfarchiadau i Ysgol Ty Coch am eu dyfeisgarwch wrth osod Masnach Deg yn gadarn ledled yr ysgol!

Rhagfyr 2010

Datblygodd Ysgol Uwchradd Prestatyn Adran Newyddion Masnach Deg ar wefan yr ysgol. Mae yno fanylion am y Pwyllgor Ysgol Masnach Deg, lluniau o weithgareddau a digwyddiadau, a chysylltiadau gyda Grŵp Tref Masnach Deg Prestatyn. Mae’n ffordd wych o hysbysu pawb am waith yr ysgol i gefnogi Masnach Deg. Cliciwch yma i weld y wefan!

Tachwedd 2010

Yn ddiweddar cynhaliodd Ysgol Y Wern gystadleuaeth i gynllunio cymeriad Masnach Deg i gefnogi a hyrwyddo Masnach Deg yn yr ysgol. Gellir gweld y cynnig buddugol ar wefan yr ysgol. Llongyfarchiadau i bawb yn yr ysgol am brosiect ardderchog! Mae Tegwen yn chwifio baner Masnach Deg yn Ysgol y Wern!

Hydref 2010
Cyfansoddodd Ysgol Gynradd Gatholig Our Lady and St Michael yn y Fenni Gân Masnach Deg ar gyfer Ffair Masnach y Byd Cymru, gan ganu i’r gymuned am Fasnach Deg. Roedd eu hymdrech a’u brwdfrydedd yn heintus, ac rydym yn eu llongyfarch am eu cyfranogaeth yn y digwyddiad.

Medi 2010
Ysgol Heronsbridge yw Ysgol y Mis ar gyfer mis Medi yn sgil y cwestiynau gwych y gofynnodd y disgyblion i gynhyrchydd Coffi Masnach Deg o Uganda. Roedd oedran y disgyblion yn amrywio rhwng 16 a 18, ac roedd ganddynt anghenion arbennig. Roedd eu dealltwriaeth o faterion Masnach Deg yn drawiadol, a lefel eu hymgysylltiad gyda sgwrs y cynhyrchydd yn anogaeth ac yn ysbrydoliaeth. Dangosodd yr ysgol arweiniad wrth gynnal digwyddiad Masnach Deg i athrawon ysgolion eraill ym Mhen-y-bont ar Ogwr er mwyn dysgu mwy am faterion Masnach Deg. Cafodd ysgolion eraill gyfle i rannu profiadau Heronsbridge o weithio dwy’r Cynllun Ysgolion Masnach Deg. Diolch i Heronsbridge am eu cefnogaeth barhaus i Fasnach Deg.

Mehefin 2010
Ysgol Gynradd Penygloddfa am eu cân wych am Fasnach Deg. Ysgrifennwyd gan ddosbarth 5/6 R i’w chanu ar yr alaw ‘Cân Hosanna’.  

Mai 2010 
Ysgol St Christopher – am eu hymrwymiad 10 mlynedd at Fasnach Deg! Ac am eu prosiect addysg cymheiriaid gwych gydag ysgolion cynradd lleol. Roedd hyn yn golygu fod disgyblion yr ysgol uwchradd yn cynnal gwasanaethau mewn ysgolion cynradd lleol, dan y teitl 'Lledaenu’r Gair', gan annog ysgolion cynradd hefyd i weithredu ar faterion Masnach Deg. Ysgol galonogol iawn, gan fod nifer o’r plant yn wynebu sialensiau anghenion arbennig, ond yn dangos ymrwymiad at ofalu am eraill, er gwaethaf eu sialensiau eu hunain.

Ionawr 2009
Ysgol Cynfran (Conwy) - Am roi pwysau ar dimoedd pêl-droed cenedlaethol y DU i stocio peli troed Masnach Deg!
Aeth â baner Cymru Masnach Deg i Old Trafford a'u hannog i wneud rhagor dros Fasnach Deg.


Chwefror 2009
Ysgol Gladestry (Powys) - am newid yr holl fagiau mae'r plant yn eu defnyddio'n fagiau cotwm Masnach Deg!


Mawrth 2009
Sant Richard Gwyn (y Barri) - am eu dawns banana ffantastig o gwmpas de Cymru ar fws banana! - dull hwyliog o addysgu cyfoedion.


Ebrill 2009
Ysgol Dinas Brân (Sir Ddinbych) - am ymddangos ar y teledu a dweud wrth ysgolion yng Nghymru sut y daeth yn ysgol Masnach Deg a manteision Masnach Deg.

Mai 2009
Ysgol Hafren - am fod yr ysgol Fasnach Deg gyntaf yn Sir Drefaldwyn. Athrawon - am eu dolenni cwricwlwm ffantastig yn eu gwersi Masnach Deg. Disgyblion - am ysgrifennu at yr Awdurdod Addysg Lleol yn gofyn am brydau ysgol Masnach Deg.   

 

Medi 2009
Ysgol Pontrobert (Powys) – Am goginio pryd bwyd 3 chwrs blasus Masnach Deg ar gyfer eu rhieni!  

Hydref 2009
Ysgol St Cyres (Penarth) – Am gysylltu eu grŵp ysgol yn llwyddiannus gyda’u grŵp tref Masnach Deg. Bu ganddynt statws llawn Masnach Deg ers 2 flynedd, ac maent wedi bod yn rhan o ddatblygiad Masnach Deg y dref ers 2005, gan gynorthwyo gyda nifer o weithgareddau grŵp y dref. Mae rhai disgyblion o’r ysgol yn mynychu cyfarfodydd Fforwm Tref Masnach Deg Penarth yn rheolaidd, gydag un myfyriwr yn cael ei ethol yn ddiweddar fel swyddog cyhoeddusrwydd. 

Tachwedd 2009
Ysgol Gellifaelog (Merthyr)- Derbyniodd disgybl o’r ysgol Wobr Goffa Peter Jones a sefydlwyd gan Love Zimbabwe. Mae’r wobr hon yn cydnabod cyfraniadau unigryw plentyn unigol wrth ddeall a datblygu ‘Masnach Deg a dinasyddiaeth fyd-eang’.